Rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
Gallwch weld pa gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i helpu gyda chostau byw a chael gwybod sut i arbed arian.
Llywodraeth Cymru
Gallwch gael cymorth a chyngor gan Lywodraeth Cymru i’ch helpu gyda’r cynnydd mewn costau byw gan gynnwys budd-daliadau, biliau cyfleustodau, materion ariannol, tai, addysg, gofal plant a lles.
GOV.UK – Cymorth gyda chostau byw
Gallwch gael gwybod pa gymorth sydd ar gael i helpu gyda chostau byw ar GOV.UK . Mae hyn yn cynnwys budd-daliadau incwm ac anabledd, biliau a lwfansau, gofal plant, tai a theithio.
Help i Aelwydydd
Gallwch weld pa gymorth sydd ar gael gyda chostau byw a chael gwybod sut i arbed arian gydag awgrymiadau ar gyfer arbed ynni ar wefan Help for Households GOV.UK.