Costau addysg ac ysgol

Gallwch ganfod pa gymorth sydd ar gael i helpu gyda chostau addysgu eich plentyn a’i anfon i’r ysgol.

Prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd

O fis Medi 2023 ymlaen, bydd pob disgybl cynradd amser llawn yn derbun prydau ysgol am ddim

Prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd

Gallwch ganfod a allai eich plentyn fod yn gymwys i gael prydau ysgol uwchradd am ddim.

Cynllun Brecwast Am Ddim mewn Ysgolion Cynradd

Cysylltwch ag ysgol gynradd eich plentyn i ganfod a ydynt yn rhedeg clwb brecwast ac ymgeisio am frecwast am ddim i’ch plentyn. Gallwch gael gwybod mwy am y Cynllun Brecwast Am Ddim mewn Ysgolion Cynradd

Hawliwch help gyda hanfodion ysgol (gwisg ac offer)

Gall teuluoedd ar incwm isel gael cymorth gyda’r grand Hanfodion Ysgol.

Cymorth gwisg ysgol yn Sir Benfro

Os ydyw eich amgylchiadau yn anodd, ac y mae arnoch angen cymorth gyda gwisg ysgol, efallai y gall Grant Cynnal Addysg Sir Benfro eich helpu.

Y cynllun cymorth prynu (cerddoriaeth)

Os yw eich plentyn yn cael gwersi offerynnol fel rhan o’r cwricwlwm ysgol, gallwch brynu offerynnau am bris gostyngol.

Cynhyrchion am ddim ar gyfer mislif

Gallwch gael gwybod sut y mae eich ysgol leol yn darparu cynhyrchion am ddim ar gyfer y mislif gyda’r Grant Urddas Mislif.

Gliniaduron

Gallwch gael gwybod a allai’r Gynghrair Tlodi Digidol  helpu eich teulu i gael gliniadur am ddim.

Addysg 16 – 19: cymorth ariannol

Gallwch gael gwybod pa gyllid a chymorth ariannol  sydd ar gael ar gyfer myfyrwyr cymwys.

Dolenni defnyddiol eraill

Help gyda chost magu babanod a phlant bach