Babanod a phlant bach

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Gallech gael un taliad o £500 i helpu tuag at gostau cael plentyn. Gwiriwch a ydych yn gymwys ar gyfer y Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn .

Cychwyn Iach y GIG

Os ydych wedi bod yn feichiog am fwy na 10 wythnos neu os oes gennych blentyn dan 4 oed, efallai fod gennych hawl gael cymorth i brynu bwyd a llaeth iach. Dysgwch fwy am gynllun Cychwyn Iach y GIG .

Banc babanod

Os ydych yn rhiant newydd ac yn profi caledi, efallai y gall Banc Babanod Sir Benfro  helpu. Gallant ddarparu’r holl hanfodion sy’n gysylltiedig â babanod yn rhad ac am ddim, gan gynnwys pecynnau ar gyfer babanod newydd-anedig, cyflenwadau hanfodol a bwndeli dillad.

Cymorth ariannol ar gyfer cewynnau go iawn

Mae cewynnau go iawn yn hawdd i’w defnyddio, gallant arbed arian ac maent yn helpu’r amgylchedd. Gallwch hawlio £30 - £60 yn ôl mewn arian parod pan ydych yn prynu cewynnau go iawn.

Budd-dal plant

Mae’n cael ei dalu bob 4 wythnos yn ôl cyfradd o £24 yr wythnos am y plentyn hynaf neu’r unig blentyn a £15.90 am bob plentyn ychwanegol. Gallwch hawlio Budd-dal Plant  os ydych yn gyfrifol am fagu plentyn sydd dan 16 (neu dan 20 ac mewn addysg neu hyfforddiant a gymeradwyir).

Help os oes gennych blentyn anabl

Gallwch gael gwybod am y cymorth sydd ar gael gan ein Tîm Plant gydag Anableddau.

Dechrau’n Deg

Gofal plant rhan-amser a ariennir ar gyfer plant 2-3 oed sy’n byw mewn ardaloedd cymwys yn Sir Benfro.

Gofal plant di-dreth

Gwybodaeth am ofal plant di-dreth  a chredydau treth ar gyfer gofal plant.

Cynnig Gofal Plant Cymru

30 awr o ofal plant ac addysg gynnar a ariennir i rieni sy’n gweithio a chanddynt blant 3 i 4 oed a rhieni mewn cyrsiau addysg a hyfforddiant cymwys.

Credyd Cynhwysol a gofal plant

Efallai y byddwch yn gallu hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant yn ôl  os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.

Gofal plant wrth hyfforddi/chwilio am waith

Gallech gael cymorth ar gyfer gofal plant wrth hyfforddi  ac ennill sgiliau i gael swydd.

Dolenni defnyddiol eraill

Help gyda chostau addysg ac ysgol
Help gyda hawlio budd-daliadau