Hawlio budd-daliadau

Efallai fod gennych hawl i gymorth ariannol hyd yn oed os nad ydych yn cael unrhyw gymorth ariannol ar hyn o bryd.

Holiadur gwirio cymhwystra GOV.UK

Gallwch wirio pa fudd-daliadau a chymorth ariannol y gallwch eu cael gyda holiadur gwirio cymhwystra GOV.UK .

Cyfrifwyr budd-daliadau

Defnyddiwch gyfrifwr budd-daliadau annibynnol  i ganfod pa fudd-daliadau allech chi eu cael, sut i hawlio a beth fydd yr effaith ar eich budd-daliadau os bydd eich amgylchiadau’n newid.

Llinell gymorth Advicelink Cymru ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’

Mae Advicelink Cymru yn cynnig cyngor â sicrwydd ansawdd ynghylch budd-daliadau lles, dyled, cyflogaeth, addysg, tai, mewnfudo a gwahaniaethu. Gallwch wirio’r hyn y mae gennych hawl iddo a hawlio’r hyn sy’n ddyledus i chi .

Taliadau Costau Byw 2023 i 2024

Efallai y gallech gael hyd at 5 taliad i’ch helpu â chostau byw os ydych chi’n cael budd-daliadau neu gredydau treth penodol.

Nid oes angen i chi wneud cais. Os ydych chi’n gymwys, byddwch yn cael eich talu’n awtomatig yn yr un ffordd ag yr ydych fel arfer yn cael eich budd-dal neu’ch credydau treth.

Darllenwch yr arweiniad ar gael taliadau ychwanegol i’ch helpu â chostau byw os ydych chi’n gymwys i gael budd-daliadau neu gredydau treth penodol.

Cyngor Ar Bopeth

Gall Cyngor Ar Bopeth Sir Benfro  eich helpu gyda budd-daliadau lles, ffurflenni hawlio a rhoi cyngor annibynnol, rhad-ac-am-ddim ynghylch arian a hawliau.

Mathau o fudd-daliadau

Credyd Cynhwysol : budd-dal i helpu gyda chostau byw os ydych ar incwm isel, yn ddi-waith neu’n methu â gweithio.

Budd-dal Tai : ar gael i bobl ar incwm isel, ond nad ydynt yn cael Credyd Cynhwysol, sy’n rhentu eu cartrefi i’w helpu i fforddio talu’r rhent.

Taliad Tai Dewisol (DHP) : cynllun yw hwn a all eich helpu i dalu eich rhent yn y tymor byr.

Lleihad yn y Dreth Gyngor a Gostyngiadau’r Dreth Gyngor : gall y rhain eich helpu i dalu eich bil treth gyngor.

Credyd Pensiwn : mae hwn yn rhoi arian ychwanegol i chi i helpu gyda’ch costau byw os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel.

Lwfans Gweini : mae hwn yn helpu gyda chostau ychwanegol os oes gennych anabledd sy’n ddigon difrifol fel bod arnoch angen rhywun i helpu i ofalu amdanoch.

Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) : help gyda chostau byw ychwanegol os oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor neu anabledd, a’ch bod yn cael anhawster cyflawni tasgau pob dydd neu symud o gwmpas oherwydd eich cyflwr.

Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar gyfer plant : gall hyn helpu gyda chostau ychwanegol gofalu am blentyn cymwys.

Cronfa Cymorth Costau Byw Sense : grantiau o £500 i bobl ag anableddau cymhleth sydd ar incwm isel ac yn byw yng nghartref y teulu.

Credyd Treth Plant : budd-dal sy’n seiliedig ar brawf modd a all ychwanegu at eich incwm os ydych yn gyfrifol am o leiaf un plentyn neu berson ifanc.

Budd-dal Plant : os ydych yn gyfrifol am fagu plentyn sydd dan 16 (neu dan 20 ac mewn addysg neu hyfforddiant a gymeradwyir) gallwch wneud hawliad a chael tâl bob 4 wythnos yn ôl cyfradd o £24 yr wythnos am y plentyn hynaf neu’r unig blentyn a £15.90 am bob plentyn ychwanegol.

Dolenni defnyddiol eraill

Help gyda chostau addysg ac ysgol
Help gyda biliau’r aelwyd