Biliau’r aelwyd ac ynni

Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu i arbed arian a lleihau cost biliau eich aelwyd.

Y Cynllun gostyngiad cartrefi cynnes

Cewch ddarganfod a ydych yn gymwys i gael £150 oddi ar eich bil trydan fel rhan o Gynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes Llywodraeth y DU.

Taliadau Costau Byw 2023 i 2024

Efallai y gallech gael hyd at 5 taliad i’ch helpu â chostau byw os ydych chi’n cael budd-daliadau neu gredydau treth penodol.

Nid oes angen i chi wneud cais. Os ydych chi’n gymwys, byddwch yn cael eich talu’n awtomatig yn yr un ffordd ag yr ydych fel arfer yn cael eich budd-dal neu’ch credydau treth.

Darllenwch yr arweiniad ar gael taliadau ychwanegol i’ch helpu â chostau byw os ydych chi’n gymwys i gael budd-daliadau neu gredydau treth penodol.

Taliad tanwydd gaeaf

Os cawsoch eich geni cyn 26 Medi 1956, gallech gael rhwng £250 a £600 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi. Gallwch wirio faint o Daliad Tanwydd Gaeaf  allwch chi ei gael gan Lywodraeth y DU.

Taliadau tywydd oer

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm neu Gredyd Cynhwysol byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer  yn awtomatig bob tro y mae’n mynd yn oer iawn.

Tanwyddau amgen (olew, nwy petrolewm hylifedig neu danwydd solet) ar gyfer gwresogi

Os yw eich cartref yn defnyddio tanwydd amgen ar gyfer y rhan fwyaf o’ch system wresogi, megis nwy petrolewm hylifedig (LPG), olew gwresogi neu danwydd solet, efallai fod gennych hawl i Daliad Tanwyddau Amgen o £200. Mae hyn yn ychwanegol at y Cynllun Cymorth Biliau Ynni  o £400 gan eich cyflenwr trydan (os oes un gennych).

Os nad ydych wedi ei gael: ymgeisiwch am daliad i helpu i dalu am danwyddau amgen.

Cronfa Amgen y Cynllun Cymorth Biliau Ynni (EBSSAF)

Os na chawsoch daliad o £400 yn awtomatig trwy’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni  (wedi’i wasgaru dros 6 mis o gredydau ar filiau eich cyflenwr ynni).

Cynllun cymorth tanwydd Cymru

Wedi cau erbyn hyn.
Cafodd aelwydydd cymwys un taliad o £200 mewn arian parod i helpu tuag at dalu eu biliau tanwydd. Fe gaeodd y ffenestr ymgeisio ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru ar 28 Chwefror 2023. Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â ni trwy anfon neges e-bost i Winterfuelpayments@pembrokeshire.gov.uk

Y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF)

O dan rai amgylchiadau gallech fod yn gymwys i gael Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP) neu Daliad Cymorth i Unigolion (IAP). Gallwch ddarganfod a allech gael grant o’r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) .

Dŵr Cymru

Os ydych yn ei chael hi’n anodd talu eich biliau dŵr, mae gan Dŵr Cymru / Welsh Water  nifer o ffyrdd y gallent eich helpu o bosibl i wneud eich biliau’n fwy fforddiadwy.

Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Mae Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn ystyried eich amgylchiadau unigol neu amgylchiadau eich aelwyd. Gallwch weld a allech gael gostyngiad ar eich bil Treth Gyngor trwy ddefnyddio holiadur gwirio Llywodraeth Cymru (mae'n agor mewn tab newydd).

Band eang a ffôn symudol

Gallwch ddarganfod a allech fod yn gymwys ar gyfer pecynnau band eang a ffôn rhatach gyda thariff cymdeithasol

Cynllun cartrefi clyd Nyth Llywodraeth Cymru

Ewch at y dudalen Nyth – Gwneud Cymru’n Glyd  i gael cyngor diduedd, rhad-ac-am-ddim ac, os ydych yn gymwys, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni am ddim i’r cartref megis boeler newydd, gwres canolog, inswleiddio neu baneli solar.

LEAP: Local Energy Advice Partnership

Gallwch weld sut y gallwch arbed gyda gwasanaeth arbed ynni ac arian rhad-ac-am-ddim LEAP , sy’n helpu pobl gymwys i gadw’n gynnes a gostwng eu biliau ynni.

Dolenni defnyddiol eraill

Mannau cynnes a chymorth gyda bwyd
Cyngor Ar Bopeth Sir Benfro
Grant Urddas Mislif