Mannau cynnes a chymorth gyda bwyd
Yma gallwch ddod i wybod am y rhwydwaith o leoedd a all gynorthwyo pobl yn Sir Benfro sy’n cael trafferthion gyda chostau byw, trwy gynnig croeso cynnes, cyfle i gymdeithasu, prydau, bwyd a hanfodion eraill ar gyfer y cartref am ddim. Mae opsiynau ar gael i bawb.
Mannau cynnes
Gallwch gael gwybodaeth am gadw’n gynnes ac yn iach yn Sir Benfro. Defnyddiwch ein map rhyngweithiol i ddod o hyd i adeiladau cymunedol a mannau eraill lle byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes a phaned o de neu goffi am ddim.
Banciau, prydau a thalebau bwyd
Defnyddiwch y rhestr hon i gael gwybod am yr amrywiaeth o gymorth gyda bwyd yn agos atoch chi.
PATCH: Elusen Pembrokeshire Action to Combat Hardship
Os ydych yn profi caledi, gallai PATCH fod o gymorth trwy ddarparu parseli bwyd, dillad ac eitemau’r cartref am ddim.
Ymddiriedolaeth Trussell: Stop UK Hunger
Mae Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n rhwydwaith o fanciau bwyd ledled y wlad, yn rhoi bwyd a chymorth mewn argyfwng i’r rhai sydd mewn angen. Gallwch gael help gan eich banc bwyd lleol .
Oergelloedd cymunedol
Gall unrhyw un gasglu, neu ddanfon, bwyd dros ben – mae’n ffordd wych o leihau’r bwyd bwytadwy sy’n mynd i safleoedd tirlenwi. Cewch ragor o wybodaeth yma am Oergelloedd Cymunedol yn agos atoch chi.
Hybiau bwyd
Gallwch gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol i gael mynediad rhwydd at fwyd sy’n iach ac yn cynnig gwerth gwych. Ceir gwybodaeth yma am hybiau bwyd PLANED yn Sir Benfro.
Help gyda chost prydau ysgol
Gallwch gael gwybod pa gymorth gyda bwyd sydd ar gael i blant yn yr ysgol.
Cychwyn Iach y GIG
Os ydych wedi bod yn feichiog am fwy na 10 wythnos neu os oes gennych blentyn dan 4 oed, efallai fod gennych hawl gael cymorth i brynu bwyd a llaeth iach. Dysgwch fwy am gynllun Cychwyn Iach y GIG .
Canolfannau ieuenctid cymunedol
Mae’r rhain yn darparu ystod o gyfleoedd a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed, ac maent yn aml yn cynnwys lle i gael diod a thamaid i’w fwyta. Dewch o hyd i Glwb Ieuenctid yn Sir Benfro.
Cymorth gyda bwyd ar gyfer anifeiliaid anwes
Os ydych chi mewn sefyllfa argyfyngus, lle nad oes arian ar gael i chi ar unwaith na chymorth teuluol i brynu bwyd ar gyfer anifeiliaid anwes, gall Banc Bwyd Anifeiliaid Anwes Cariad helpu i sicrhau nad yw eich anifeiliaid anwes yn mynd heb fwyd.
Dolenni defnyddiol eraill
Gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i helpu gyda’ch iechyd a’ch lles
Cael help gydag arian a dyled