Arian a dyled

Cyngor ar Bopeth

Mae Cyngor ar Bopeth Sir Benfro  yn rhoi cyngor rhad-ac-am-ddim, annibynnol, cyfrinachol a diduedd i bawb ynghylch eu hawliau a’u cyfrifoldebau gan gynnwys rheoli dyled ac addysg ariannol.

Advicelink Cymru

Cysylltwch ag Advicelink Cymru  i gael cyngor rhad-ac-am-ddim a chyfrinachol ynghylch dyled, budd-daliadau lles, tai a mwy.

Undeb credyd

Os ydych yn chwilio am fenthyciad yna gallai Undebau credyd  helpu gyda chredyd fforddiadwy. Gan na fyddant ond yn rhoi benthyg yr hyn y gallwch ei fforddio mae’n helpu i osgoi dyled bellach na ellir ei rheoli.

Helpwr Arian

I gael cyngor ynghylch dyledion, arweiniad ar drin arian ac arweiniad ar bensiynau sy’n rhad ac am ddim ac yn ddiduedd ewch at Helpwr Arian , gwasanaeth a gymeradwyir gan y Llywodraeth i bawb.

Step Change

Dechreuwch roi eich materion ariannol yn ôl ar y trywydd iawn gyda chyngor rhad-ac-am-ddim, diduedd a chyfrinachol gan Step Change , elusen dyledion.

Money Advice Trust

Elusen genedlaethol yw Money Advice Trust  sy’n helpu pobl ledled y DU i fynd i’r afael â’u dyledion a rheoli eu harian â hyder

Dolenni defnyddiol eraill

Help gyda chostau tai
Help gyda hawlio budd-daliadau
Help gyda biliau’r aelwyd
Help gydag iechyd a lles