Tai a digartrefedd

Cymorth gyda digartrefedd

Os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref ar hyn o bryd, gall ein Tîm Cyngor ar Dai roi cymorth i chi.

Gweithredu ar gyfer y Digartref yn Sir Benfro (PATH)

I gael cyngor, cynhorthwy ac eiriolaeth i gael llety diogel a fforddiadwy cysylltwch â PATH. Maent yn rhoi’r holl gymorth yma i bobl sy’n ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref.

Cymorth â thai

Gallwch gael gwybod mwy am yr holl ffyrdd y gall ein Tîm Tai eich cefnogi â gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau.

Grant Cymorth Tai (HSG)

Os oes arnoch angen cymorth tai, gallai cronfa’r Grant Cymorth Tai helpu i atal digartrefedd a’ch helpu i gadw cartref sefydlog ac addas.

Cymorth gyda thalu rhent

Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent yn y tymor byr, efallai y gallwch gael Taliad Tai Dewisol (DHP) i’ch helpu.

Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI)

Os ydych yn berchentywr, efallai y gallwch gael cymorth tuag at daliadau llog ar eich morgais neu fenthyciadau ar gyfer gwelliannau ac atgyweiriadau i’ch cartref gyda benthyciad Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais .

Shelter Cymru

Gallwch ddod i ddeall eich hawliau, a cheisio cymorth gyda’ch problemau tai .

The Wallich

Os ydych yn ddigartref, mewn perygl o ddigartrefedd neu’n agored i niwed gallwch gael cymorth gan un o elusennau digartrefedd blaenllaw Cymru, The Wallich .

Llamau

Os ydych yn rhywun ifanc neu’n fenyw agored i niwed sy’n profi digartrefedd neu mewn perygl o ddigartrefedd, bydd  Llamau  yn rhoi cymorth unigol i chi i’ch helpu i deimlo’n saff ac yn ddiogel.

Dolenni defnyddiol eraill

Help gyda hawlio budd-daliadau
Help gyda biliau’r aelwyd
Help gyda rheoli arian a dyled
Dod o hyd i fannau cynnes a chymorth gyda bwyd yn agos atoch chi