Iechyd a lles
Gallwch gael gwybod am yr amrywiaeth o gymorth gydag iechyd corfforol ac iechyd meddwl sydd ar gael i’ch cadw chi a’r rhai o’ch cwmpas yn iach.
Help gyda chostau’r GIG
Os ydych wedi’ch cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru mae gennych hawl i bresgripsiynau am ddim gan fferyllydd yng Nghymru. Efallai y byddwch yn gallu cael triniaeth ddeintyddol a phrofion llygaid am ddim hefyd yn ogystal â help gyda chostau eraill y GIG. Gwiriwch pa help allech chi ei gael .
Cymorth gyda chostau teithio’r GIG
Gallwch gael gwybod pa un a oes gennych hawl i gael cymorth gyda chostau teithio’r GIG i weld meddyg ymgynghorol.
Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol
Llinell wedi’i neilltuo i iechyd meddwl yw’r Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol . Mae’n rhoi cymorth cyfrinachol i’ch helpu i ddod o hyd i gymorth sydd ar gael yn eich ardal leol.
Cymorth gan feddyg teulu a chymorth iechyd meddwl lleol
Gallwch ddod o hyd i’ch meddygfa deulu agosaf neu gael cymorth iechyd meddwl lleol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda .
Llinellau cymorth iechyd meddwl brys y GIG
Os oes arnoch angen help ar gyfer argyfwng neu achos brys sy’n ymwneud â’ch iechyd meddwl, dylech gael cyngor ac asesiad arbenigol ar unwaith. Ffoniwch 111 a dewiswch opsiwn 2 ar gyfer llinell gymorth iechyd meddwl frys y GIG.
Gofal deintyddol y GIG
Gallwch ddod o hyd i ddeintydd y GIG yn agos atoch chi neu ymweld â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda os oes arnoch angen eu gwasanaeth deintyddol brys . Hefyd, gallwch gael gwybod mwy am ffioedd deintyddol ac eithriadau’r GIG .
Mind Sir Benfro
Mind yw eich elusen iechyd meddwl leol, sy’n rhoi cyngor a chymorth i rymuso unrhyw un sy’n profi problem iechyd meddwl gan gynnwys The Sanctuary ar gyfer cymorth mewn argyfwng fin nos ac yn ystod y nos.
Cysylltwyr Cymunedol
Gall Cysylltwyr Cymunedol eich rhoi mewn cysylltiad â phobl, grwpiau a gweithgareddau sy’n iawn i chi a’ch teulu. Mae ganddynt rai Cysylltwyr arbenigol hefyd: un sy’n arbenigo mewn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ac un arall sy’n canolbwyntio ar gefnogi pobl â dementia a’u teuluoedd.
Y Samariaid
Beth bynnag yr ydych yn mynd drwyddo, ffoniwch Y Samariaid yn rhad ac am ddim, unrhyw bryd, o unrhyw ffôn, ar 116 123.
Cylchoedd cymorth
Prosiect peilot cyffrous newydd yw hwn sy’n ymwneud yn gyfan gwbl â gweithio ochr yn ochr â phobl i greu cylchoedd cefnogol , sy’n cynnig cyfeillgarwch, cymuned, llais a rheolaeth.
Byw Heb Ofn
Mae Byw Heb Ofn ar agor 24/7 ac yn rhoi gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, hygyrch i’r holl ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a’r rhai sy’n agos atynt. Mae’n rhad ac am ddim ac ni fydd i’w weld ar filiau ffôn.
Cymdeithas Alzheimer’s
Mae Cymdeithas Alzheimer’s yn rhedeg nifer o wasanaethau dementia o amgylch y wlad, megis Caffis Dementia, Canu er mwyn yr Ymennydd, grwpiau gweithgareddau, gwasanaeth cyfeillio, grwpiau cymorth a mwy.
Cyngor Age Cymru
Mae Cyngor Age Cymru yn cynnig gwasanaethau cymorth rhad-ac-am-ddim, cyfrinachol a diduedd. Gallant helpu pobl hŷn, eu teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gyda gwybodaeth a chyngor ynglŷn â materion sy’n effeithio ar bobl hŷn.
Gofal a Thrwsio Cymru
Mae Gofal a Thrwsio yn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau ymarferol sy’n helpu pobl hŷn yng Nghymru i gadw’n ddiogel, yn gynnes ac yn iach gartref. Hyd yn oed os ydych chi’n meddwl nad ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol fel arfer, gallech fod yn gymwys yn awr i gael rhywfaint o gymorth gyda chostau byw o ddydd i ddydd.
Cerdded yn Sir Benfro
Mae cerdded yn ffordd wych o wella eich lles. Mae llawer o lwybrau cerdded gwych o amgylch y Sir, a hefyd gallwch gerdded tuag at fywyd iachach gyda Cerdded er Budd Lles Gorllewin Cymru .