Help ar gyfer pobl hŷn
Holiadur gwirio cymhwystra GOV.UK
Gwiriwch pa fudd-daliadau a chymorth ariannol allwch chi eu cael gyda holiadur gwirio cymhwystra GOV.UK .
Cyfrifwyr budd-daliadau
Defnyddiwch gyfrifwr budd-daliadau annibynnol i ganfod pa fudd-daliadau allech chi eu cael, sut i hawlio a beth fydd yr effaith ar eich budd-daliadau os bydd eich amgylchiadau’n newid.
Credyd Pensiwn : mae hwn yn rhoi arian ychwanegol i chi i helpu gyda’ch costau byw os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel.
Lwfans Gweini : mae hwn yn helpu gyda chostau ychwanegol os oes gennych anabledd sy’n ddigon difrifol fel bod arnoch angen rhywun i helpu i ofalu amdanoch.
Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) : help gyda chostau byw ychwanegol os oes gennych gyflwr iechyd corfforol neu iechyd meddwl hirdymor neu anabledd, a’ch bod yn cael anhawster cyflawni tasgau pob dydd neu symud o gwmpas oherwydd eich cyflwr.
Gallwch gael gwybod am fudd-daliadau eraill sydd ar gael a sut i hawlio
Taliad tanwydd gaeaf
Os cawsoch eich geni cyn 26 Medi 1956, gallech gael rhwng £250 a £600 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi. Gallwch wirio faint o Daliad Tanwydd Gaeaf allwch chi ei gael gan Lywodraeth y DU.
Taliadau tywydd oer
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm neu Gredyd Cynhwysol byddwch yn cael Taliad Tywydd Oer yn awtomatig bob tro y mae’n mynd yn oer iawn.
Mannau cynnes
Gallwch gael gwybodaeth am gadw’n gynnes ac yn iach yn Sir Benfro. Defnyddiwch ein map rhyngweithiol i ddod o hyd i adeiladau cymunedol a mannau eraill lle byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes a phaned o de neu goffi am ddim
Cymdeithas Alzheimer’s
Mae Cymdeithas Alzheimer’s yn rhedeg nifer o wasanaethau dementia o amgylch y wlad, megis Caffis Dementia, Canu er mwyn yr Ymennydd, grwpiau gweithgareddau, gwasanaeth cyfeillio, grwpiau cymorth a mwy.
Cyngor Age Cymru
Mae Cyngor Age Cymru yn cynnig gwasanaethau cymorth rhad-ac-am-ddim, cyfrinachol a diduedd. Gallant helpu pobl hŷn, eu teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gyda gwybodaeth a chyngor ynglŷn â materion sy’n effeithio ar bobl hŷn.
Gofal a Thrwsio Cymru
Mae Gofal a Thrwsio yn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau ymarferol sy’n helpu pobl hŷn yng Nghymru i gadw’n ddiogel, yn gynnes ac yn iach gartref. Hyd yn oed os ydych chi’n meddwl nad ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol fel arfer, gallech fod yn gymwys yn awr i gael rhywfaint o gymorth gyda chostau byw o ddydd i ddydd.
Dolenni defnyddiol eraill
Help gyda biliau eich aelwyd ac ynni
Gwasanaethau oedolion: gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn Sir Benfro